Mae siopa gwych, bwytai braf, coctels soffistigedig, bywyd nos cyffrous neu deithiau cerdded heddychlon ar hyd yr arfordir a thraethau panoramig. Mae rhywbeth i bawb yn Abertawe, y ddinas ger y môr!
Os ydych yn chwilio am antur gyda’r plant, noson allan wych neu gyfle i ymlacio ar lan y môr, mae modd creu digonedd o atgofion yng nghanol y ddinas gydag adloniant, gweithgareddau difyr, diwylliant, hanes a harddwch naturiol eithriadol.