
Unwaith y bydd yr haul ar fachlud, bydd y ddinas yn dod yn fyw, gydag amrywiaeth o fariau, clybiau nos, lleoliadau cerddoriaeth fyw a mwy!
Bariau

Gellir cael diodydd blasus yn Elixir!
Mae Flickering Light yn rhyfeddod hyfryd, os gallwch ddod o hyd i’r fynedfa gyfrinachol! Gellir yfed jin bendigedig yn Juniper Place, neu os yw rỳm yn well gennych, mae gan ei chwaer gwmni Old Havana dros 50 o fathau gwahanol! Dyma rai o’r bariau gwych sydd i’w cael yng nghanol y ddinas.

Clybiau Nos
Os ydych chi’n bwriadu dawnsio tan ddiwedd y noson, mae digon o glybiau nos i fynd â’ch bryd. Ar gyfer y rheiny sy’n dwli ar glybio, prif glwb nos Abertawe yw Fiction, gyda’i restr enwog o DJs preswyl a gwesteion clodwiw. Mae Bambu yn lle poblogaidd arall i fynd iddo gyda’r hwyr.

Mae’r bar hwyr hwn ger y traeth yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth ac mae ganddo fythau karaoke preifat a theras Shisha awyr agored sydd wedi’i gynhesu.
Os ydych chi’n teimlo ychydig yn hiraethus, efallai mai Popworld yw’r lle i chi, lle cewch ddawnsio i’r caneuon gorau o’r 70au, yr 80au, y 90au a’r 00au, a hynny ar lawr dawnsio eiconig sydd wedi’i oleuo.
Cerddoriaeth Fyw

Mae Abertawe yn gartref i gerddoriaeth fywiog gyda lleoliadau fel Sin City a Hangar 18 sy’n cynnal sioeau bob penwythnos o gerddoriaeth Gwerin, Roc, Amgen a mwy. Mae The Hyst ar y Stryd Fawr yn gyrchfan hynod boblogaidd i artistiaid lleol gyda’i stiwdio deledu a radio ei hun a mannau perfformio pwrpasol. Yn No Sign Wine Bar, bar hanesyddol, gellir gweld digonedd o berfformiadau yn eu seler win The Vault o’r 1400au sydd wedi’i hadnewyddu.
Mae Abertawe hefyd yn gartref i berfformiadau stryd amrywiol trwy’r cynllun hynod lwyddiannus From Busk Till Dawn.
Rhywbeth gwahanol?

Os ydych chi am gael profiad mwy unigryw, mae arbenigwr cwrw crefft, Copper, ar Stryd y Castell. Mae The Bucket List ar Stryd y Gwynt hefyd yn cynnig cwrw crefft unigryw ac ardal ar gyfer aelodau’n unig sydd â byrddau pŵl, ping pong, pinbel a gemau arcêd retro.
Fel arall, mae Coyote Ugly Saloon gyferbyn, gyda’i darw rodeo a’i weinyddesau enwog sy’n dawnsio!
Y Faner Borffor

Mae’r Faner Borffor , sef gwobr genedlaethol sy’n cydnabod economi nos fywiog a diogel dinas, bellach yn chwifio’n falch yng nghanol y ddinas. Dyma’r safon aur newydd ar gyfer adloniant a lletygarwch ac mae’n gyfwerth â’r Faner Las enwog ar gyfer traethau. Abertawe yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill y wobr fawreddog, a gwnaeth hynny ym mis Chwefror 2015. Mae wedi cynnal y statws hwn ers hynny.
Mae Abertawe wedi sicrhau cynnydd cyson yn nifer y bobl sy’n mwynhau’r amrywiaeth o dafarndai, bwytai, sinemâu a lleoliadau adloniant gyda’r hwyr a gostyngiad cyson yn nifer y troseddau ar yr un pryd.
This post is also available in: English