
Mae’r Faner Borffor , sef gwobr genedlaethol sy’n cydnabod economi nos fywiog a diogel dinas, bellach yn chwifio’n falch yng nghanol y ddinas. Dyma’r safon aur newydd ar gyfer adloniant a lletygarwch ac mae’n gyfwerth â’r Faner Las enwog ar gyfer traethau. Abertawe yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill y wobr fawreddog, a gwnaeth hynny ym mis Chwefror 2015. Mae wedi cynnal y statws hwn ers hynny.

Mae Abertawe wedi sicrhau cynnydd cyson yn nifer y bobl sy’n mwynhau’r amrywiaeth o dafarndai, bwytai, sinemâu a lleoliadau adloniant gyda’r hwyr a gostyngiad cyson yn nifer y troseddau ar yr un pryd.

Priodolir hyn i lwyddiant mentrau’r Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, fel y Man Cymorth sydd wedi’i leoli yng nghanol y ddinas ar nosweithiau prysur i helpu’r rhai sy’n mynd allan drwy roi gwybodaeth a chyfarwyddiadau, darparu fflip-fflops ar gyfer traed blinedig a thrin anafiadau bach, ymhlith pethau eraill.
Mae’r staff sydd wrth law, sydd wedi’u hyfforddi’n feddygol, yn derbyn cymorth gan fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, gan ddarparu cymorth ychwanegol yn y Man Cymorth a’r Gilfach Gollwng ddynodedig.

Y prosiectau eraill a gafodd adolygiad disglair oedd Cynllun Bugeiliaid Stryd Abertawe a’r Marsialiaid Tacsi sy’n rheoli’r ciwiau tacsi gyda’r nos, gan helpu i sicrhau taith ddiogel adref ar ôl noson bleserus.

This post is also available in: English