Mae Abertawe, sy’n llawn celf a diwylliant, wrth ei bodd yn meithrin ac yn cefnogi ei doniau creadigol. Felly, mae canol y ddinas yn gartref i ddetholiad da o amgueddfeydd ac orielau, gyda nifer ohonynt yn cynnig mynediad am ddim.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu hanes, diwylliant a chyflawniad Cymru. Mae’r amgueddfa’n dweud stori diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, heddiw ac yn ystod y 300 mlynedd ddiwethaf. Mae’r cyfleuster yn cyfuno technoleg cyfrifiadura rhyngweithiol ac arddangosiadau gweledol trawiadol i gyfleu sut mae treftadaeth ddiwydiannol a morol Cymru wedi chwarae rôl wrth lywio economi a chymdeithas heddiw. Mae’n gyrchfan hanfodol ar gyfer unrhyw ymwelydd â chanol dinas Abertawe.
Amgueddfa Abertawe yw’r hynaf yng Nghymru. Fe’i hagorwyd ym 1841 ac fe’i rheolir bellach gan Gyngor Abertawe. Mae’r amgueddfa’n drysor cudd o orffennol Abertawe ac yn gartref i ddarnau gosod parhaol, fel y bedd Eifftaidd ac arddangosfa Abertawe adeg rhyfel, yn ogystal ag ystafell arddangos drawsnewidiol. Mae’r adeilad hanesyddol hwn yn werth ei weld!
Canolfan Dylan Thomas yw’r canolbwynt bellach i ddathlu bywyd a gwaith y bardd byd-enwog, a chartref i ŵyl flynyddol Dylan Thomas. Enwyd yr adeilad gwych hwn ar ôl un o feibion enwocaf Abertawe ac mae’n gartref i arddangosfa barhaol o’i fywyd. Ar wahân i’r casgliad a’r arddangosfa, mae siop yno hefyd sy’n gwerthu llyfrau, posteri a phethau cofiadwy.
Agorodd Oriel Gelf Glynn Vivian yn wreiddiol ym 1911 ac fe’i hadfywiwyd yn 2016. Sefydlwyd yr oriel gan Richard Glynn Vivian, y curadur celf clodwiw, a adawodd ei gasgliad celf cyfan er mwynhad pobl Abertawe. Heddiw, mae’r oriel yn gartref i waith celf a chrochenwaith sy’n dyddio o’r 18fed ganrif hyd heddiw gan artistiaid o bob cwr o’r byd, gyda ffocws arbennig ar greawdwyr lleol. Os oes gennych ddiddordeb mewn celf, mae’n rhaid ymweld â hi pan fyddwch yng nghanol y ddinas. Byddwch hefyd wrth eich bodd yn ymweld ag Oriel Elysium ar Stryd Fawr sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwr.
Mae orielau eraill yng nghanol y ddinas yn cynnwys Attic Gallery, sef oriel breifat hynaf Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1962 i amlygu gwaith artistiaid cyfoes sy’n gweithio yng Nghymru, ac mae yn yr Ardal Forol.
Hefyd yn yr Ardal Forol mae Oriel Mission; lleoliad celfyddydol unigryw sy’n arddangos y gorau ym meysydd y celfyddydau gweledol a chrefft yn un o’r mannau orielu ac arddangos mwyaf arbennig, ac sydd wedi’u haddasu orau, ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.
Mae Oriel Science yn dod â gwyddoniaeth i’r gymuned trwy arddangosion, gweithdai a sgyrsiau. Mae ein prosiect arloesol yn defnyddio ymchwil Prifysgol Abertawe i ddangos pa mor bwysig yw gwyddoniaeth, technoleg ac arloesedd i’ch bywydau bob dydd!
This post is also available in: English