Mae theatr fwyaf ac enwocaf Abertawe, Theatr y Grand, wedi’i lleoli yng nghanol y ddinas ar Stryd Singleton. Drwy gydol y flwyddyn mae’n croesawu cwmnïau teithiol mawr sy’n perfformio amrywiaeth o sioeau cerdd, dramâu, digrifwyr, bale ac opera yn ogystal â’r pantomeim adeg y Nadolig.
Dyma gyflwyno gofod adloniant a digwyddiadau amlbwrpas mwyaf newydd De Cymru, Arena Abertawe, gwbl gyfoes â lle i 3,500 o bobl. Mae’r arena’n cynnal gomedi hollti ochr, gig cerddoriaeth epig a swyno theatr gerddorol a mwy!
Mae Volcano yn gwmni theatr wedi’i leoli yn Abertawe. Rydym yn creu gwaith gwreiddiol sydd bob amser yn chwareus, dyfeisgar a rhyfeddol – ar ba bynnag ffurf y mae hynny..
Sinema
P’un a ydych am weld ffilmiau poblogaidd neu ffefrynnau gŵyl newydd, mae gan dri sinema Abertawe ddewis amrywiol o ffilmiau ac amserau sy’n addas i bawb. Mae gan sinema ODEON ym Mharc Tawe ystod o sgriniau yn ogystal â chlybiau ffilm arbenigol y gallwch fod yn rhan ohonynt. Mae gan sinema Vue ar Stryd Efrog 13 sgrîn o wahanol feintiau, a gallwch ddewis uwchraddio i seddau mwy moethus. Mae Cinema & Co ar Stryd y Castell yn sinema annibynnol a chlyd, sydd â bar sy’n dangos ffilmiau hiraethus poblogaidd yn ogystal â ffilmiau indie newydd ac sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.
This post is also available in: English