Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am ganol y ddinas trwy ddilyn y llwybrau cyffrous ar thema sy’n mynd â chi heibio amrywiaeth o olygfeydd ac atyniadau, rhai na wyddech eu bod yn bodoli!
Tyst y Ddinas – Prosiect yn seiliedig ar ymchwil sy’n defnyddio marcwyr palmant i olrhain canol y ddinas a dilyn stori William Cragg, dyn lleol a gafodd ei grogi yn Abertawe yn yr oesoedd canol ac a atgyfodwyd yn wyrthiol! Mae’r daith yn cynnwys straeon am Abertawe yn yr oesoedd canol a’r ysbrydion a allai fod yno o hyd!
Llwybr Castell Abertawe i Deuluoedd – Dewch yn dditectif hanesyddol a datryswch ddirgelion y castell hwn a fu’n destun brwydro ffyrnig! Gellir cael gwybodaeth am y llwybr hefyd yn y man gwybodaeth Wi-Fi sydd ar dir y castell.
Llwybrau Dylan Thomas – Mae nifer o lwybrau yn Abertawe a gorllewin Cymru sy’n seiliedig ar leoliadau sy’n dathlu Dylan Thomas. Mae’r arweinlyfrau hyn, sydd ar gael yng Nghanolfan Dylan Thomas, yn llawn straeon ac esboniadau sy’n rhoi cipolwg i chi ar fywyd ac amserau’r bardd enwog o Abertawe.
This post is also available in: English