Gan gynnwys adloniant i oedolion, themâu eithafol a goleuadau trawiadol, Bunkers! yw’r lleoliad perffaith ar gyfer hwyl haerllug gyda ffrindiau gyda choctels, bwyd a gweithgareddau gwych ar gael i greu awyrgylch bywiog.
Breakout Live Swansea yw prif gêm ddianc Cymru. Mewn timau o 2 i 6 bydd gennych 60 munud i ddod o hyd i’r cliwiau, datrys y posau a dianc (gobeithio)!
Mae Crazy Climb yn cynnig antur ddifyr i’r teulu gyda waliau dringo rhyngweithiol ar thema arbennig a drws nesaf yn Flashpoint ceir cyfleuster clogfeinio o’r radd flaenaf sydd wedi’i ddylunio ar gyfer pob gallu.
Laserzone fyw, uwch-dechnoleg ger castell Abertawe. Mae’r arena aml-lefel ffugwyddonol yn ganolfan ryngweithiol ag effeithiau arbennig, niwl a phelydrau laser ac yn ddelfrydol i unrhyw un dros 7 oed sy’n mwynhau antur ddifyr!
LC Swansea, mae parc dŵr dan do mwyaf Abertawe yn cynnwys sleidiau, efelychydd tonnau, a llawer mwy! Gallwch nofio, chwarae, dringo, cadw’n heini neu ymlacio yn y sba dan un to. I gael rhagor o wybodaeth am eu cyfleusterau ac amserau agor, ewch i’w wefan yma.
Mae Lumberjack Axe Throwing yn brofiad llawn adrenalin y byddwch chi byth wedi gwybod ei bod angen arnoch chi! Gyda dau safle wedi eu lleoli yng Abertawe a Caerdydd, mae’r cwmni yma sy’n seiliedig yng Nghymru yn fan berffaith ar gyfer y rheini sy’n chwilio am antur anghofiadwy.
Dewch i brofi’ch sgiliau Ninja wrth ddringo, cydbwyso a siglo ar draws rhwystrau yn Ninja Warrior UK.
Mae coedwig law drofannol dan do Abertawe yn ddiwrnod allan perffaith ac unigryw i’r teulu’r, beth bynnag fo’r tywydd! Sylwch ar y pryfed byw ecsotig, yr ymlusgiaid, y pysgod a’r swricatiaid yn ogystal â’r fflora trofannol sy’n cynnwys planhigion banana, câns siwgwr, cacti pigog a bambwau enfawr wrth i chi deithio drwy ddau barth hinsawdd – mae Plantasia yn cynnig y cyfan!
Gallwch fowlio a chwarae Ninja Tag yn Superbowl Swansea ar York Street ac mae lle chwarae meddal ‘Crazy Club’ yno i blant iau.
Mae Tenpin Swansea ym Mharc Tawe yn ale fowlio 26 lôn gyda bar, adloniant, arcêd chwarae gemau ac ardal fyrbrydau.
Campfeydd
Mae amrywiaeth o gampfeydd yng nghanol y ddinas i’ch helpu i gyrraedd eich nodau ffitrwydd! Mae The Gym Group a JD Gym yn cynnig cyfleoedd i wneud ymarfer corff 24 awr y dydd, ac mae YMCA Abertawe’n cynnig ystod o ddosbarthiadau iechyd a lles.
This post is also available in: English