Mae Tîm Rheoli Canol y Ddinas yn hwyluso cyfres o ddigwyddiadau tymhorol drwy gydol y flwyddyn, yn annibynnol ac mewn cydweithrediad ag adrannau eraill Cyngor Abertawe, partneriaethau a sefydliadau.
Marchnadoedd Cyfandirol
Mae marchnadoedd cyfandirol yn ymweld â chanol y ddinas yn aml trwy gydol y flwyddyn, gan ddod â chyfoeth o fasnachwyr â danteithion hyfryd o bob ran o Ewrop. Mae Tîm Rheoli Canol y Ddinas yn cynorthwyo wrth gyflwyno’r digwyddiadau hyn.

Gwyliau Dewi Sant
Mae gwyliau bwyd Cymreig megis ‘Get Welsh’ a ‘Croeso’ sy’n canolbwyntio ar fwyd a chynnych rhanbarthol arbenigol yn aml yn cael eu cynnal yng nghanol y ddinas adeg Dydd Gŵyl Dewi ac maent yn cael eu trefnu gan Gyngor Abertawe. Mae’r digwyddiadau hyn hefyd yn cynnwys adloniant gwych gyda phwyslais ar y Gymraeg a diwylliant Cymru.
Y Faner Borffor
I ddathlu statws Baner Borffor Abertawe, mae Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn cynnal digwyddiadau blynyddol yng nghanol y ddinas sy’n cynnwys economi gyda’r hwyr a chyda’r nos amrywiol Abertawe, gan gynnwys ‘Penwythnos Mawr Abertawe’ ac ‘Alive after Five’ a digwyddiad ar thema ‘The Greatest Showman’ a gafodd ei ganmol y llynedd.

Nos Galan Gaeaf
Cynhelir digwyddiadau calan gaeaf tymhorol yn flynyddol yng nghanol y ddinas, gan gynnwys y digwyddiad ‘Ysbrydion yn y Ddinas’ poblogaidd. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys adloniant byw, cystadlaethau gwisgoedd a hwyl a gemau i’r teulu i gyd! Mae Tîm Rheoli Canol y Ddinas yn cynorthwyo wrth gyflwyno’r digwyddiadau hyn.
Y Nadolig
Mae canol dinas Abertawe’n serennu adeg y Nadolig! Mae Tîm Rheoli Canol y Ddinas yn helpu i gyflwyno Gorymdaith flynyddol y Nadolig a chynnau goleuadau’r Nadolig sy’n goleuo’r coed a’r addurniadau ar hyd strydoedd y ddinas. Hefyd mae yna farchnad Nadolig brysur a gynhelir dros dymor yr ŵyl ac a gyflwynir gan Dîm Rheoli Canol y Ddinas.

Mae amrywiaeth eang o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau o gwmpas canol y ddinas, cymerwch gip ar galendr canol y ddinas i gael gwybod mwy!
This post is also available in: English