A hithau’n ddinas addysg, ymchwil a chyfleoedd, mae digonedd o opsiynau ar gyfer astudio yn Abertawe.
Mae’n gartref i Brifysgol Abertawe, prifysgol o safon fyd-eang ac a gydnabyddir yn rhyngwladol a sefydlwyd y 1920. Mae gan y brifysgol hon ddau gampws wrth ymyl y traeth ac sy’n dafliad carreg o ganol y ddinas. Mae cyfoeth o bynciau academaidd ar gynnig a cheir rhestr eithriadol o weithgareddau chwaraeon, cymdeithasau a gweithgareddau allgyrsiol i gymryd rhan ynddynt.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd wedi agor campysau yng nghanol y ddinas yn ddiweddar. Mae cyfleuster newydd arloesol yn cyfuno nifer o brifysgolion Cymru, fel y gallant rannu eu hadnoddau a’u harbenigedd i gynnig profiad dysgu unigryw. Mae canolfan Abertawe’r uwch-brifysgol hon yn gartref i ysgol gelf, campws busnes a chyfadran pensaernïaeth, cyfrifiadura a pheirianneg.
Nid prifysgolion yn unig sydd gan Abertawe i’w cynnig. Mae Coleg Gŵyr hefyd yn cynnig cyrsiau amser llawn a rhan-amser ynghyd ag amrywiaeth o gymwysterau gan gynnwys Safon AS a Safon Uwch, Diplomâu, cymwysterau HND/HNC a Graddau Sylfaen, yn ogystal ag amrywiaeth ardderchog o brentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol.
Mae canol dinas Abertawe’n gyrchfan wych i bawb. P’un a ydych chi’n bwriadu astudio yn y ddinas, ymweld â hi neu weithio ynddi, bydd yr hyn sydd gan ganol y ddinas i’w gynnig, y marina traddodiadol, yr arfordir trawiadol a’r promenâd gwych yn golygu y byddwch yn sicr o syrthio mewn cariad ag Abertawe!
This post is also available in: English