Mae’r gwasanaeth Ceidwaid Canol y Ddinas bellach yn rhan o’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas ac yn cael ei gefnogi gan BID Abertawe. Mae’r gwasanaeth yn dyddio’n ôl i 1998 ac ers hynny mae llawer o newidiadau wedi digwydd.
Cyflwynwyd y Ceidwaid gyntaf yn Abertawe i fod yn llygaid ac yn glustiau canol y ddinas, rhoi gwybod am broblemau a mynd i’r afael â materion megis palmentydd wedi torri, offer stryd, sbwriel a daflwyd, fandaliaeth a graffiti.
Er bod hyn yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r swydd, mae’r gwasanaeth wedi datblygu’n sylweddol ers ei ddyddiau cynnar, gyda gwasanaeth cwsmeriaid wrth wraidd disgrifiad swydd y Ceidwaid.
Yn ogystal â chyflawni’r rôl lysgenhadol hon, mae’r Ceidwaid yn darparu cefnogaeth ymarferol i hwyluso a rheoli’r digwyddiadau a’r gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu cynnal yng nghanol y ddinas a threfnu mynediad diogel i’r ardal. Maent hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda busnesau lleol a’r heddlu i helpu i leihau troseddau busnes ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhyngddynt, mae’r Ceidwaid yn gweithio saith niwrnod yr wythnos, gan gynnwys gwyliau banc. Maent yn patrolio parth sy’n ymestyn o Ffordd y Gorllewin a Stryd Dilwyn yn y gorllewin i’r Stryd Fawr a Stryd Mansel yn y gogledd ac i’r dwyrain, mor bell ag Afon Tawe. Mae ardaloedd ychwanegol yn cynnwys canolfannau siopa Parc Tawe a’r Cwadrant, yr Ardal Forol a Stryd y Gwynt.
Cysylltu â’r Ceidwaid
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, ffoniwch 01792 483892/07826 394771 neu e-bostiwch ceidwaidcanolyddinas@abertawe.gov.uk
This post is also available in: English